Unigolyn yn canolbwyntio ar ddatblygu gwefannau a meddalwedd.
Mae ganddom brofiad helaeth o'r canlynol:
|
CroesoDw i'n arbenigo mewn adeiladau a chynnal gwefanau ar gyfer busnesau bychan a chanolig yng Nghymru yn bennaf - gyda phwyslais ar wefanau clir a syml. Mae fy ngwasanaeth yn cynnwys 'hostio' ar gyfer gwefanau, graffeg, ebost, galeriau, datblygu rhaglenni arbenigol...........
Manteision
Y FiDw i wedi bod "ar y we" ers canol y 90au, yn creu gwefanau mewnol ar gyfer cwmniau hyd at 2000. Fy ngwaith gwreiddiol oedd datblgu meddalwedd cyfrifiadurol ar gyfer teclynnau electronaidd, yn defnyddio ieithoedd megis C, VB, Microchip Assembler a sglodion megis yr 8051 a theulu Arizona Microchip.
Mae'r busnes yma wedi bod yn weithredol ers 2002, yn creu ambell i wefan ar gyfer ffrindiau i ddechrau, ac yna'n lledaenu'n raddol bach i gwmniau a mudiadau. Dw i'n mwynhau creu gwefanu ac yn mwynau gweithio efo unigolion o fewn y mudiadau hyn. Byddaf yn ymdrechu i roi gwasanaeth personol, cyflym a chywir. Mae'r maes gwefannau yn gallu bod yn un anodd i gwsmeriaid ei ddeall, gan ei fod yn faes technegol, felly byddaf yn ymdrechu i weithio efo'r cwsmer ac yn ceisio addysgu'r cwsmer i'w alluogi i wneud y penderfyniad sydd yn iawn iddynt hwy. |




